"Bryncrach Caravan site's quiet, peaceful setting and outstanding scenery is
what brings many happy guests back year after year."
Mae gan y maes carafanau teithio safleoedd caled ar gyfer pob math o garafanau teithio, pwyntiau trydan a chyflenwad dŵr cyfagos, felly gall gwesteion fwynhau cyfleusterau bywyd modern tra’n profi ffordd o fyw syml a gwledig ar yr un pryd. Ar y safle ceir tai bach dynion a menywod, cawodydd poeth rhad ac am ddim a chyfleusterau golchi llestri, felly gallwn gwrdd ag anghenion sylfaenol ein gwesteion.
Croesewir cŵn ac anifeiliaid anwes bach eraill ar y maes, a cheir stablau ar y fferm ar gyfer ceffylau, o fis Mehefin hyd at fis Medi. Mae Bryncrach felly’n ddewis delfrydol ar gyfer marchogwyr brwd sy’n awyddus i anturio trwy gefn gwlad Cymru. Gweler www.free-rein.co.uk am wybodaeth ar deithiau merlota lleol.
Lleolir tafarn y pentref, sef ‘The Hundred House Inn’, 300 llath o’r maes, a cheir bwyd a diodydd tafarn da yma. Cynigir bwyd gan sawl tafarn arall yn yr ardal gyfagos a byddwn yn hapus i’w hargymell. Ceir siopau ac archfarchnadoedd 5 milltir i ffwrdd yn Llanfair-ym-Muallt.
Rydym yn caniatáu barbeciws a thanau gwersyll ar y maes.